Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Dros Dro)
Role Overview & Responsibilities
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
- Oriau cyflogaeth dros dro
- £11.10 - £11.52 yr awr
- Ar draws amrywiol safleoedd
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Darparu cefnogaeth un i un neu grwp bach o dan gyfarwyddyd darlithydd fel sy’n briodol yn yr ystafell ddosbarth.
- Helpu gyda datblygiad sgiliau rhifedd a llythrennedd dysgwyr.
Amdanoch chi:
- Gradd A-C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg neu gyfatebol.
- Profiad diweddar o weithio gyda dysgwyr ag anghenion cefnogi addysgol.
Buddion:
- Parcio am ddim
- Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Frequently Asked Questions
How do I apply for the Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Dros Dro) position at Gower College Swansea?
Click the “Apply for this Position” button on this page to submit your details directly to Gower College Swansea's recruitment pipeline without agency fees or intermediaries.
Is this role eligible for remote work or international relocation?
This position is based in Swansea, Wales with potential relocation and visa sponsorship considerations for qualified candidates.
Are there any fees to apply through Jobflixs?
No. Jobflixs is 100% free for all job applicants. We strictly prohibit recruitment fees, candidate registration fees, or placement charges.